Luke 12:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mwy yw’r einioes na’r lluniaeth: a’r corph na’r wisc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nac am eich corph, beth a wisgoch; canys yr einioes, mwy yw na’r ymborth, a’r corph na’r dillad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r wisg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae'r bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corff yn fwy na'r dillad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r wisg.