Luke 12:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ystyriwch vvedd y cicvrain: can na heuant, ac na vetant: ac nid oes yddyn na chell nac yscupawr, ac er hyny y mae Duw yn y l’uniaethy hwy: pa veint mwy ydd y‐chwi well na ’r ehediait?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ystyriwch y brain, nad ŷnt yn hau nac yn medi, i’r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, a Duw a’u portha. Pa faint mwy yr ydych chwi yn well na’r ehediaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Sylwch ar y brain; nid ydynt yn hau nac yn medi, ac nid oes iddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu porthi. Gymaint amgenach ydych chwi na’r adar!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliwch am gigfrain: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nag ysgubor — ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ystyriwch y cigfrain, nad ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: pa faint mwy yr ydych chwi yn rhagori ar yr ehediaid?