Luke 12:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ny ellwch gan hyny wneythur y peth lleiaf, paam y pryderwch am y llaill?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, y peth lleiaf na ellwch ei wneud, paham am y lleill y pryderwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, oni ellwch hyd yn oed y lleiaf oll, paham y pryderwch am y rhelyw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gan hyny ni ellwch hyd y nod yn yr hyn sydd leiaf, paham yr ydych yn bryderus am y gweddill?