Luke 12:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ystyriwch’ y lili mal y tyfant vvy ny d y y n yn travaely, nag yn nyddu: a’ dywedaf wrthych, na bu Selef y un yn ei oll arderchawgrwydd, wedy ’r wiscaw val vn or ei hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ystyriwch y lili, y modd y tyfant: ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; a dywedaf wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon, yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Sylwch ar y liliau pa fodd nad ydynt yn nyddu nac yn gwau; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ystyriwch flodau'r lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu: ond meddaf i chwi, hyd y nod Solomon yn ei holl ogoniant ni amwisgwyd fel un o'r rhai hyn.