Luke 12:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s amwisc Duw y gwellt yn yr hvvn ’sy heddyw yn y maes, ac y voru a daylir ir ffwrn ais, pa vaint mwy y dillada ef chvvy chwi, havvyr vechan eich ffydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os y llysieuyn yn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru i’r ffwrn y’i teflir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, pa faint mwy y dillada Efe chwi, O rai o ychydig ffydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dillada Duw felly’r gwellt sydd heddiw yn y maes, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, pa faint mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os yw Duw felly yn dilladu'r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os felly y mae Duw yn dilladu y glaswellt, y rhai sydd heddyw mewn maes, ac yfory yn cael eu taflu i ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O chwi o ychydig ffydd?