Luke 12:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwyð paam pa bethe bynac a ðywetsoch yn‐tywyllwch, ei clywir yn y goleuni: a’ hyn a ddywed e soch yn y glust, mewn lleoedd dirgel, a bregethir ar vchaf y tai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, yn y goleuni y clywir hwynt; a’r hyn a lefarasoch yn y glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny popeth a ddywedasoch yn y tywyllwch, clywir ef yn y goleuni, ac a lefarasoch i’r glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, pa bethau bynag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleuni: a'r hyn a lefarasoch i'r glust mewn celloedd dirgel, a gyhoeddir ar benau tai.