Luke 12:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y pethae hyn oll a ymgais populoedd y byd: a’ch Tat chwi a wyr vot arnoch eisie y pethae hynn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio; ac eich Tad chwi a ŵyr fod arnoch eisiau y pethau hyn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yr holl bethau hyn y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond gŵyr eich Tad fod arnoch chwithau eisiau’r pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau'r pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y pethau hyn oll y mae cenedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tâd chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn.