Luke 12:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwerthwch ysyð y‐chwy, a ’rhowch yn eleesen i. Gwnewch y‐chwy amnerae a’r ny ’s hen eiddi ant, yn dresawr andefficiol yn y nefoedd, lle ny nesa llaitr, ac ny lygra pryf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen. Gwnewch i’ch hunain byrsau na heneiddiant, trysor na dderfydd yn y nefoedd, y lle nad yw lleidr yn nesau atto, na phryf yn llygru;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwerthwch eich eiddo, a rhowch elusen; gwnewch i chwi byrsau na heneiddiant, trysor anniflanedig yn y nefoedd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni ddifetha gwyfyn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwerthwch eich meddianau, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi eich hunain gôdau ni heneiddiant, trysor diddarfod yn y Nefoedd, lle nad yw lleidr yn agoshâu, na phryfed yn llwyr‐ddifa.