Luke 12:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chwi theu yn gyffelyp i ðynion yn d ysgwyl am ei harglwydd, pa bryd y daw ef o’r briodas, val pan ddel ef a’ churo ’r drvvs, yddyn agori iddo yn ebrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel wedi dyfod o hono a churo, y bo iddynt yn uniawn agor iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel pan ddêl a churo yr agoront iddo yn union.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chwithau yn debyg i ddynion yn dysgwyl eu Harglwydd eu hunain, pan yr ymadawo o'r briodas‐wledd; fel, pan ddelo a churo, yn ebrwydd yr agorant iddo.