Luke 12:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys gwynvydedic y gweision hynny, yr ei n yr Arglwydd pan ddel ei caiff yn‐neffro: yn wir y dywedaf y‐chwi, yr ymwregysa ef ehun, ac a‐wna‐yddyn eisted‐i lawr‐i‐vwyta, ac a ddaw allan, ac y gwasanaetha hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eu byd y gweision hyny y rhai y bydd yr arglwydd ar ei ddyfodiad yn cael yn neffro; yn wir y dywedaf wrthych, Ymwregysa efe, a phar iddynt led-orwedd, a chan ddyfod y gwasanaetha arnynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eu byd y gweision hynny, a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn effro; yn wir, meddaf i chwi, fe ymwregysa a pheri iddynt eistedd wrth y bwrdd, a daw a gweini arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo — wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn fyd y gweision hyny, y rhai a gaiff yr Arglwydd pan ddêl yn gwylio yn ddyfal. Yn wir meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i fwyta; ac efe a ddaw yn mlaen, ac a wasanaetha arnynt.