Luke 12:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr owon gwybyddwch hyn, pe ’s gwypei gwr y tuy pa awr y daethe se i’r lleitr, ef a wyliesei, ac ny adawsei gloddiaw ei duy trywoð,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr yr oedd y lleidr ar ddyfod, effro fuasai, ac ni adawsai i’w dŷ gael ei gloddio trwodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa awr y deuai’r lleidr, buasai’n effro, ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi ei rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tu375? yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w du375?.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai meistr y tŷ pa awr y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai yn ddyfal, ac ni adawsai iddo gloddio trwy ei dŷ ef.