Luke 12:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno dywedyt o Petr wrthaw, Arglwydd, ai wrthym ni y dywedy y parabol hwn, ai ynte wrth bavvb oll hefyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Petr, Arglwydd, Ai wrthym ni y dywedi y ddammeg hon, neu wrth bawb hefyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd Pedr, “Arglwydd, ai amdanom ni y dywedi’r ddameg hon, ai yntau am bawb?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Pedr, "Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a ddywedodd, Arglwydd, Ai wrthym ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ai hefyd wrth bawb?