Luke 12:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Arglwydd a ddyvot, Pwy ’n sy dy- warcheidwat ffyddlawn, a’ phwyllawc, yr hwn a ’osyt yr Arglwydd yn llyvvodraethvvr ar ei duylu, y roddy yddyn ei cyfluniaeth yn y amser?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Arglwydd, Pwy, gan hyny, yw’r distain ffyddlawn, y pwyllog, yr hwn a esyd yr arglwydd ar ei deulu, i roddi eu cyfluniaeth yn ei bryd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Arglwydd, “Pwy, tybed, yw’r goruchwyliwr ffyddlon, pwyllog, a esyd yr arglwydd dros ei deulu i roddi’r dogn bwyd yn ei bryd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw'r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr Arglwydd, "Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yn wir yw y goruchwyliwr ffyddlawn, synwyrol, yr hwn a esyd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi mewn pryd eu cyfran o fwyd?