Luke 12:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir ionedd y dywedaf wrthych, y gosyt ef hwnw yn llyvvodraethvvr ar yr oll ac ys y iddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir y dywedaf wrthych, Ar y cwbl y sydd eiddo y gesyd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
dywedaf wrthych yn wir, fe’i gesyd ef dros ei holl eiddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, efe a'i gesyd ef dros ei holl eiddo.