Luke 12:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a’ s dywait y gwas hwnw yn ei galon, Ef a oeda vy arglwydd ei ddyuod iat, a’ dechrae curaw y gweision, a’r morynion a’ bwyta ac yfet, a’ meddwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os dywaid y gwas hwnw yn ei galon, Oedi dyfod y mae fy arglwydd, a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi dyfod,’ a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond beth petai'r gwas yn meddwl wrtho'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, 'Y mae fy meistr yn oedi dod', a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os dywed y gwas hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod, a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwyta, ac yfed, a meddwi;