Luke 12:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
E ddaw arglwydd y gwas hwuw mewn dydd pryd na thybia ef, ac mewn awr na wyr ef ywrthei, ac ei trycha ef ymaith, ac a rydd iddo ei ran y gyd a’r anffyddlonieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd na ddisgwyl efe, ac ar awr na ŵyr efe, ac ei dorri ef ar wahan a wna efe, a’i ran ef a esyd efe ynghyda’r anffyddloniaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddydd nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau, ai rifo gyda’r anffyddloniaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r anffyddloniaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai sydd ddim yn credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gu373?yr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd nad yw efe yn dysgwyl, ac mewn awr nad yw efe yn gwybod; ac efe a'i fflangella yn erwin; ac a esyd ei gyfran gyd â'r anffyddloniaid.