Luke 12:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ’hwn ny’s gwybu, ac a wnaeth bethae teilwng o wialenodae a vaiddir ac ychydic vvialenodæ: can ys i bwy bynac y rhoðwyt llawer, l’awer a geisir ganthaw, ac y bwy bynac y dodant lawer, mwy a ’o vynnant ganthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr hwn na wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau; a phob un i’r hwn y rhoddwyd llawer, llawer a geisir oddi wrtho; a chyda’r hwn y rhoddasant lawer, mwy a ofynant ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau’n haeddu curfa, a gaiff ychydig. Pob un y rhoddwyd llawer iddo, llawer a ofynnir ganddo, a’r neb yr ymddiriedasant lawer iddo, mwy a geisiant ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os dydy'r gwas ddim yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, bydd y gosb yn ysgafn. Mae disgwyl llawer gan y sawl oedd wedi derbyn llawer; ac mae gofyn llawer mwy yn ôl gan y sawl oedd yn gyfrifol am lawer.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn l gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr hwn ni wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu curiadau, a gurir âg ychydig. Ac i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a geisir oddi wrtho: ac i'r hwn yr ymddiriedasant lawer, mwy a ofynant oddi wrtho.