Luke 12:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rhac ddangosafy‐chwy, pwy ’n a ofnwch: ofnwch hwn yr vn gwedy lladdo, ’sy iddo veddiant i vwrw i ’r yffern: dioer, y dywedaf wrthych, hwn vv a ofnwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond dangosaf i chwi pwy a ofnwch; ofnwch yr Hwn, ar ol y lladd, sydd a Chanddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ïe, meddaf i chwi, Hwnw ofnwch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mi ddangosaf i chwi pwy yr ydych i’w ofni; ofnwch yr hwn wedi iddo ladd sydd ganddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni — mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dangosaf i chwi pwy i'w ofni: ofnwch yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern wedi'r lladd; ie, rwy'n dweud wrthych, ofnwch hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond mi a ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn, wedi y lladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnw a ofnwch.