Luke 12:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y tat a ymranna yn erbyn y map, a’r map yn erbyn y tat: y vam yn erbyn y verch, a’r verch yn erbyn y vam: y chwegr yn erbyn y waydd, a’r waydd yn erbyn hei chwegr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhennir hwynt tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn ei mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ymranna tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn ei mam, chwegr yn erbyn ei gwaudd a gwaudd yn erbyn ei chwegr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Ymranna'r tad yn erbyn y mab a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn ei merch a'r ferch yn erbyn ei mam, y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraith a'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tâd yn erbyn mab, a mab yn erbyn tâd; Mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn y fam; Chwegr yn erbyn ei gwaudd, a gwaudd yn erbyn y chwegr.