Luke 12:54 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot ef ir werin, Pan weloch wybren yn cyuodi o’r Gorllewin, yn y van y dywedwch, Y mae cavod yn dyuot: ac velly yw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmmwl yn y gorllewin, yn uniawn y dywedwch, Cawod sy’n dyfod;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrth y tyrfaoedd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yn y fan chwi ddywedwch, ‘Mae cawod yn dyfod’; ac felly y bydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, "Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, 'Daw yn law', ac felly y bydd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmwl yn cyfodi o'r Gorllewin, yn ebrwydd chwi a ddywedwch, Y mae gwlaw trwm yn dyfod: ac felly y mae.