Luke 12:56 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hypocriteit, chvvi g wyddoch ddyall wynep y ddayar, a’r nef: a’ phaam na ddyellwch yr amser hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhagrithwyr, gwynebpryd y ddaear a’r nef y medrwch ei ddeall; ond yr amser hwn pa fodd na fedrwch ei ddeall?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ragrithwyr, gwyddoch sut i farnu wyneb y ddaear a’r awyr; pa fodd na ddeallwch y cyfnod hwn?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ragrithwyr, chwi a, wyddoch pa fodd i wneuthur prawf o wyneb‐pryd y ddaear a'r wybr: ond y tymhor hwn, pa fodd na wyddoch sut i wneuthur prawf o hono?