Luke 12:58 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra vych yn myn e d y gyd ath ’wrthnebwr at y llywyawdr, ’rhydd y fforð dyro dy waith ar gael dy ymwared y wrthaw, rac bot iddaw dy ddwyn at y brawdwr, ac i’r brawdwr dy roðy at y cais, ac ir cais dy davlu yn‐carchar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys tra yr eli gyda’th wrthwynebwr ger bron llywodraethwr, ar y ffordd ymdrecha i fyned yn rhydd oddi wrtho, rhag ysgatfydd iddo dy lusgo at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’r swyddog dy daflu yngharchar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ei o flaen ynad gyda’th wrthwynebwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael gwared ohono, rhag iddo dy lusgo di gerbron y barnwr; a’r barnwr a’th draddoda di i’r rhingyll, a’r rhingyll a’th fwrw di yng ngharchar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys tra fyddech yn myned gyda'th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yng ngharchar:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan wyt yn mynd gyda'th wrth-wynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys tra fyddi yn myned gyd â'th wrthwynebwr o flaen y llywodraethwr, ar y ffordd gwna dy oreu i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy lusgo at y Barnwr, a'r Barnwr a'th draddoda at y Dirwywr, a'r Dirwywr a'th dafla i garchar.