Luke 12:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any phrynir pempt o dar ynot‐ y‐to er doy fferling, ac eto ni d oes vn o hanynt yn angof geir bron Duw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid yw pump aderyn y tô yn cael eu gwerthu er dwy ffyrling; ac nid oes un o honynt wedi ei anghofio ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni werthir pump aderyn to am ddwy ffyrling? Ac nid oes un ohonynt yn angof gan Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni werthir pump o adar y tô am ddwy geiniog? Ac nid oes un o honynt wedi cael ei anghofio gerbron Duw.