Luke 12:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ie, ac y mae oll wallt eich pen yn gyf rifedic: nag ofnwch gan hyny: ys ym delwch mwy no llawer o adar ynot yto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr hyd yn oed gwallt eich pennau sydd oll yn gyfrifedig. Nac ofnwch, ar lawer o adar y tô yr ydych yn rhagori.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo bob un; peidiwch ag ofni; amgenach ydych na llawer o adar to.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y mae hyd y nod wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif oll. Nac ofnwch, yr ydych chwi yn rhagorach na llawer o adar y tô.