Luke 12:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt y dywedaf y‐chwy, Pwy pynac a’m cyffesso i geyr bron dynion, Map y dyn y cyffessa yntef hefyt geyr bron Angelion Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedaf wrthych, Pob un a’m haddefo I ger bron dynion, Mab y Dyn hefyd a’i haddef ef ger bron angylion Duw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddaf i chwi, pob un a’m harddelo i yng ngŵydd dynion, Mab y dyn hefyd a’i harddel yntau yng ngŵydd angylion Duw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau gerbron angylion Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a'm harddel i gerbron eraill, bydd Mab y Dyn hefyd yn eu harddel hwy gerbron angylion Duw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Pob un a'm cyffeso i gerbron dynion, Mab y Dyn hefyd a'i cyffesa yntau ger bron Angelion Duw.