Luke 13:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YR oedd ’rei yn presennol yn yr amser hwnw, yn menegy iddaw am y Galilaiait, y sawl a gymyscesei Pilat ei gwaed gyda ai h’aberthae hwy hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yn bresennol, yr un amser hwnw, rai yn mynegi Iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymmysgodd Pilat ynghyda’u haberthau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth rhywrai’r pryd hwnnw, a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u haberthau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed 'u hebyrth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chyrhaeddodd rhai yn y cyfamser hwnw, gan fynegi iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymysgodd Pilat â'u haberthau.