Luke 13:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac arglwydd y Synagog a atepawdd yn sorredic, can i’r Iesu iachau ar y dydd Sabbath, ac a ðyuot wrth y popul, Y mae chwe ch die rnot ar yr ei y dylyir gweithio: ar yr y rhe’in gan hynny dewch, ac iachaer chwi, ac ny d ar y dydd Sabbath.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr archsunagogydd, yn sorri am mai ar y Sabbath yr iachaodd yr Iesu, a ddywedodd wrth y dyrfa, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y mae rhaid gweithio; ynddynt hwy, gan hyny, deuwch ac iachaer chwi, ac nid ar ddydd y Sabbath.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd y pensynagogydd, yn ffyrnigo am i’r Iesu iacháu ar y Sabbath, a dywedodd wrth y dyrfa, “Chwe diwrnod sydd y dylid gweithio ynddynt; ar y rhain, ynteu, deuwch i gael meddyginiaeth, ac nid ar y dydd Sabbath.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i'r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iachu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, "Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iachu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Llywodraethwr y Synagog a ffromodd yn aruthr am i'r Iesu wellhâu ar y Sabbath, ac a atebodd ac a ddywedodd wrth y dyrfa, Y mae chwe diwrnod yn y rhai y dylid gweithio; yn y rhai hyn gan hyny deuwch a gwellhâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath.