Luke 13:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno atep iddo o’r Arglwyð, a’ dywedyt, Hypocrit, any d yw pop vn o hanoch vvi ar, y dydd Sabath yn gellwng ei ych nei asin o’r preseb, a’ dywys y yfed dw f r?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac iddo yr attebodd yr Arglwydd, a dywedodd, Rhagrithwyr, onid yw pob un o honoch ar y Sabbath yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a chan ei arwain ymaith, yn ei ddiodi ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Arglwydd iddo, “Ragrithwyr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o’r preseb, a mynd ag ef ymaith i gael dŵr?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr Arglwydd a'i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain i'r dwfr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Rwyt ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ychen ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr Arglwydd ef, "Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r du373?r?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Arglwydd a atebodd iddo ac a ddywedodd, O ragrithwyr, Onid yw pob un o honoch yn gollwng ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain ymaith i'r dwfr?