Luke 13:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac any ðyly yverch hon i Abrahā, yr hon a rwymoð Satā, wele, ys daunaw blyneð, gahel hei gellwng o’r rhwym hwn ar y dydd Sabbath?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hon, merch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, onid oedd rhaid ei gollwng o’r rhwym hwn ar ddydd y Sabbath?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hon, a hithau’n ferch i Abraham, a rwymodd Satan, ie, ddeunaw mlynedd, oni ddylesid ei gollwng o’r rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn ar y dydd Saboth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma i chi un o blant Abraham — gwraig wedi ei rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd! Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hon, yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd; oni ddylai gael ei rhyddhâu oddiwrth y rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?