Luke 13:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddywedei ef y pethae hyn, y cywilyddit y oll wrthnepwyr ef: a’r oll popul a lawenhaei wrth y pethae rhagorawl a wnaethit y gantaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn, cywilyddiwyd ei holl wrthwynebwyr, a’r holl dyrfa a lawenychodd am yr holl bethau gogoneddus a wnaid Ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddo ddywedyd hyn cywilyddiai pawb a’i gwrthwynebai, a’r holl dyrfa a lawenychai am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei eiriau yn codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr a gywilyddiasant; a'r holl dyrfa oedd yn llawenhâu am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.