Luke 13:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyffelyp yw i ’ronyn o had mustard, yr hwn a gymerei ðyn ac a heuhei yn dy ’arð, ac a dyvei, ac ’ai yn brē mawr, ac ehediait y nef a nythent yn ey gangae
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i ba beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; a chynnyddodd efe ac aeth yn bren, ac ehediaid y nef a lettyasant yn ei ganghennau ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyffelyb yw i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i fwrw i’w ardd, a chynyddodd ac aeth yn bren, ac adar yr awyr a nythodd yn ei gangau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a'i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tebyg yw i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a fwriodd i'w ardd ei hun; ac efe a dyfodd, ac a ddaeth i fod yn bren, ac ehediaid y Nefoedd a ymlochesasant yn ei gangau ef.