Luke 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawdd, ac a ddyuot, wrthyn, A dybygwch wi vot y Galilaieit hyn yn bechadurieit mwy na’r oll Galilaieit ereill, can ddarvot yddyn ddyoddef cyfryw bethae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, dywedodd wrthynt, A dybygwch chwi yr oedd y Galileaid hyn yn bechaduriaid rhagor yr holl Galileaid am mai y pethau hyn a ddioddefasant?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd iddynt, “A dybiwch fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r Galileaid oll, am iddynt ddioddef y pethau hyn?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na'r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd ef hwy, "A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid tu hwnt i'r holl Galileaid, am eu bod wedi dyoddef y pethau hyn?