Luke 13:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyffelyp yw i surdoes, ’rhwn a gymrei wreic, ac ei cuddiei mewn tri chibened o vlawd, yn y surei oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyffelyb yw i surdoes a gymmerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyffelyb yw i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tebyg yw i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl oll.