Luke 13:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gerddawdd trwy ’r oll ddinasoedd a’ threfi, gan ei dyscu, gan ymddaith tu a’ Chaerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thramwyodd trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu ac ymdeithio i Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thramwyai trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, ar ei ffordd tua Chaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, a gwneyd ei ffordd i Jerusalem.