Luke 13:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot vn wrthaw, Arglwydd, Ai ychydig ion ynt a vyddant cadwedic? Ac ef a ddyuot wrthynt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd rhyw un Wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai sy’n cael eu cadw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd rhywun wrtho, o “Arglwydd, ai ychydig yw’r rhai sy’n cael eu cadw?” Dywedodd yntau wrthynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai rhywun wrtho, "Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?" Ac meddai ef wrthynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw un a ddywedodd wrtho, Ai ychydig yw y rhai sydd yn cael eu cadw? Ac efe a ddywedodd wrthynt,