Luke 13:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy y cyf oto gwr y tuy i vyny dd, a’ chau’r drws a’ dechreu o hanoch sefyll allan, a’ churo ’r drws, gan ddywedyt, Arglwydd, Arglwydd, agor y ni, ac ef a atep ac a ddywait wrthych, Nyd adwen chwi, o b’le ddych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan ddarffo i ŵr y tŷ gyfodi, a chau’r drws, A dechreu o honoch sefyll oddi allan a churo’r drws, Gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, A chan atteb y dywaid wrthych, Nid adwain chwi, o ba le yr ydych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi i ŵr y tŷ gyfodi a chau’r drws, ac i chwithau ddechrau sefyll oddi allan a churo’r drws gan ddywedyd, ‘Arglwydd, agor i ni’ ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, ‘Ni’ch adwaen chwi, o ba le yr ydych,’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau'r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Unwaith y bydd meistr y tu375? wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, 'Arglwydd, agor inni'; ond bydd ef yn eich ateb, 'Ni wn o ble'r ydych.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o'r adeg y cyfodo meistr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll y tu allan a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, ac yntau gan ateb a ddywed, Nid adwaen chwi, o ba le yr ydych.