Luke 13:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y bydd wylofain a’ rriccian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac ac Iaco, a’r oll Prophwyti yn‐teyrnhs Duw, a’ chwi theu wedy ych tavly allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd, Pan weloch Abraham ac Itsaac ac Iacob, A’r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, A chwychwi yn cael eich bwrw allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yno y bydd yr wylofain a’r rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac ac Iacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau yn cael eich bwrw allan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi eich taflu allan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yno y bydd yr wylofain a'r rhingcian danedd, pan welwch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl Broffwydi, yn Nheyrnas Dduw, ond chwithau wedi eich bwrw i'r tu allan.