Luke 13:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha yn olaf ydd ynt, yr ei vyddant gyntaf, ac y mae yn gyntaf yr ei vyddant olaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, olaf yw’r rhai a fyddant flaenaf, A blaenaf yw’r rhai a fyddant olaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele, y mae rhai yn olaf a fydd yn flaenaf, ac y mae rhai yn flaenaf a fydd yn olaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, olaf ydyw'r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw'r rhai a fyddant olaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, y mae rhai olaf a fyddant flaenaf, a blaenaf a fyddant olaf.