Luke 13:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn y die rnot hwnw y daeth yr ei or Pharisaieit, ac y dywedesont wrthaw, Cerdda ymaith, a’ dos o dd yma: can ys Herod a chwenych dy ladd di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr awr honno daeth Atto rai o’r Pharisheaid, gan ddywedyd Wrtho, Dos allan a cherdda oddiyma, canys Herod a ewyllysia Dy ladd Di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pryd hwnnw daeth rhai Phariseaid ato, a dywedyd wrtho, “Dos ymaith, a cherdd oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod Antipas eisiau dy ladd di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw, daeth rhai Phariseaid ato a dweud wrtho, "Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod 'i fryd ar dy ladd di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr awr hono daeth ato ryw Pharisead, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan a cherdda oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.