Luke 13:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot ef wrthynt, Ewch a dywedwch ir cadnaw hwnw, Nycha I bwriaf allan gythaelieit, ac y gorphenaf iachau, heddyw, ac yvoru, a’r trydydd dydd mi ðybennir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, bwrw allan gythreuliaid yr wyf, ac iachadau a wnaf, heddyw ac y foru, a’r trydydd dydd y’m perffeithir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu cleifion heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd fe’m perffeithir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i'r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a'r trydydd dydd y'm perffeithir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef wrthynt, "Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, 'Heddiw ac yfory byddaf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iachu, a'r trydydd dydd cyrhaeddaf gyflawniad fy ngwaith.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn cyflawnu gweithredoedd o iachâd heddyw ac yfory, a'r trydydd dydd yr wyf yn cyrhaedd y diwedd.