Luke 13:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny rhaid i mi orymddaith heddyw, ac evoru, a’ threnydd: can ny ’all vot, y collir Prophwyt allan o Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr rhaid sydd i Mi heddyw, ac y foru, a thrennydd, fod ar Fy nhaith, canys ni all fod i brophwyd ei gyfrgolli tu allan i Ierwshalem,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr rhaid i mi deithio heddiw ac yfory a thrennydd, canys ni all y derfydd am broffwyd allan o Gaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall — does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, heddiw ac yfory a thrennydd y mae'n rhaid imi fynd ar fy nhaith, oherwydd ni ddichon i broffwyd farw y tu allan i Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn mhellach, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac yfory, a threnydd: canys ni chaniateir i Broffwyd gael ei ddyfetha tu allan i Jerusalem.