Luke 13:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A Caerusalem, Caerusalen, yr hon a leðy ’r Prophwyti, ac a lapyddy yr ei a dd anvonir atat, pa sawl gwaith yr ewyllyseis gasclu dy blāt di ynghyt, yr vn modd ac y cascl yr iar hi nytheid y dā y h adaned, ac ny’s mynnech?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnwn gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cydgasgl giar ei chywion dan ei hadennydd, ac ni fynnech!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gaersalem, Gaersalem, ti sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio'r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd — ond doedd gen ti ddim diddordeb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae ir yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd atat, pa mor fynych yr ewyllysiais gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd; ac nid ewyllysiech chwi!