Luke 13:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha: y gedewir eich tuy y‐chwy yn ancyfannedd. ac yn wir y dywedaf y chwi, na chewch‐vy‐gweled, yn y ddel yr amser y dywedoch, Ys bendigedic yr hwn ’sy yn dyuot yn enw yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, gadewir i chwi eich tŷ; a dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim nes dweud o honoch, Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn Enw’r Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, eich tŷ chwi a adewir. Ac meddaf i chwi, ni’m gwelwch i nes daw’r amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml. Dw i'n dweud hyn — fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, y mae eich tu375? yn cael ei adael yn anghyfannedd. Ac rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld hyd y dydd pan ddywedwch, 'Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, y mae eich Tŷ yn cael ei adael i chwi. Ond meddaf i chwi, Ni welwch fi o gwbl, hyd nes y dywedwch, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.