Luke 13:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deuot ef wrth y gwinllannwr, Nachaf, y tair blynedd hyn y daethym ac y ceisiais ffrwyth ar y fficuspren hwn, ac ny d wyf yn cael dim: trycha e y lawr: paam y mae ef yn divwynaw ’r tir?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair blynedd sydd er’s dyfod o honof gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael dim: tor ef i lawr, paham y gwneir y tir hefyd yn ddirym ganddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd iti yr wyf yn dyfod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb ei gael; tor ef i lawr; i beth hefyd y mae’n diffrwytho’r tir?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho'r tir?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrth y gwinllannwr, 'Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr; pam y caiff dynnu maeth o'r pridd?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, y mae tair blynedd o'r adeg yr wyf yn dyfod gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael: tor ef allan: paham y mae efe hefyd yn diffrwytho y tir?