Luke 13:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Arglwydd, gad iddo ’r vlwyðyn hon hefyt, ne’s i mi gloddiaw yn ey gylch, a’ ei deilo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiwyf o’i amgylch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd yntau iddo, ‘Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon eto, nes imi gloddio o’i gwmpas, a bwrw tail;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd ef, 'Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o'i gwmpas a'i wrteithio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe gan ateb a ddywed wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiaf o'i amgylch a'i achlesu: