Luke 14:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan ith ’ohoddir, dos, ac eistedd yn y lle isaf, y n y bo pan ðel yr hwn ath ’ohaddes, ddywedyt wrthyt, Y car, eistedd yn uwch i vyny dd: Yno y bydd clod yt yngwydd yr ein a gydeisteddant a thi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pan wahodder di, dos a lled-orwedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, Cyfaill, dos i fynu, yn uwch; yna y bydd i ti glod yngwydd pawb sy’n cyd-ledorwedd â thi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan wahodder di, dos ac eistedd yn y lle isaf, fel, pan ddêl yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd i fyny’n uwch’; yna bydd iti glod yng ngŵydd pawb sy’n cyd-eistedd â thi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n llawer gwell i ti fynd ac eistedd yn y sedd honno, wedyn pan fydd y sawl roddodd wahoddiad i ti'n cyrraedd, bydd yn dweud, ‘Ffrind annwyl, tyrd yn nes, mae hon yn sedd well.’ Byddi di'n cael dy anrhydeddu yn lle cael dy gywilyddio o flaen y gwesteion eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, 'Gyfaill, tyrd yn uwch'; yna dangosir parch iti yng ngu373?ydd dy holl gyd-westeion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan y'th wahodder, dos ac eistedd i lawr yn y lle olaf, fel pan ddelo yr hwn sydd wedi dy wahodd di, y dywed wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny: yna y bydd i ti anrhydedd yn ngŵydd pawb a eisteddant gyd â thi.