Luke 14:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot hefyt ef wrth hwn y gohaddesei ef, Pan wnelych giniaw nei gwynos, na ’alw dy gereint, n’ath vroder, na’th genedl, n’ath gymydogion goludawc, rac yddynt wy hefyd dy ’ohawdd dithe drachefyn, a’ chael o hanot ad‐talu ’r pvvyth y‐ty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth yr hwn a’i gwahoddasai Ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na chymmydogion goludog, rhag ysgatfydd iddynt hwy hefyd dy wahodd dithau eilchwyl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddodd, “Pan wnelych ginio neu swper, paid â galw dy gyfeillion na’th frodyr na’th geraint na chymdogion cyfoethog, rhag iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac i tithau gael ad-daliad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iesu'n dweud hyn wrth y dyn oedd wedi ei wahodd i'r pryd bwyd, “Pan fyddi'n gwahodd pobl am bryd o fwyd, paid gwahodd dy ffrindiau, dy frodyr a dy chwiorydd, dy berthnasau, neu dy gymdogion cyfoethog. Mae'n bosib i bobl felly roi gwahoddiad yn ôl i ti, ac wedyn byddi di wedi derbyn dy dâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, "Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn oedd wedi ei wahodd, Pan wnelyt giniaw neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th berthynasau, na chymydogion cyfoethog, rhag unrhyw amser iddynt hwythau hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bydd ad‐daliad i ti.