Luke 14:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ phā glypu vn o’r ei oeð yn eisteð ar y bwrð y pethae hyn, y dyuot wrthaw, Ys gwynvydedic yr hwn a vwyty vara yn‐teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o ryw un o’r rhai yn cyd-ledorwedd y pethau hyn, dywedodd Wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan glywodd un o’r rhai oedd yn cyd-eistedd y pethau hyn, fe ddywedodd wrtho, “Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd un o'r bobl oedd yn eistedd wrth y bwrdd hyn, a dwedodd wrth Iesu, “Mae'r rhai fydd yn cael bwyta yn y wledd pan ddaw Duw i deyrnasu wedi eu bendithio'n fawr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, "Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth fwyd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd pwy bynag a fwytâo fara yn Nheyrnas Dduw.