Luke 14:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot ef wrthaw, Ydd oedd gwr a wnai gwynos mawr, ac ’ohaddawdd lawer oedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn a wnaeth swpper mawr, a gwahoddodd lawer:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrtho, “Yr oedd rhyw ddyn yn gwneuthur swper mawr, a gwahoddodd lawer;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu: “Roedd rhyw ddyn wedi trefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai ef wrtho, "Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn oedd yn gwneuthur swper mawr, ac a wahoddodd lawer: