Luke 14:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hvvythe oll o vn‐ vryd a ddechreusont ym escuso di: Y cyntaf a ddyuot wrthaw, Mi brynais dyddyn, ac mae’n angen rhait i mi vyn’d allan a’ gweled hwnw: atolwc y‐ty, cymer vi yn escusodol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuasant yn un- fryd, bawb ohonynt, ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Tyddyn a brynais, ac y mae arnaf raid i fyned allan a’i weled; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuasant bawb yn unfryd ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf wrtho, ‘Prynais faes, ac y mae’n rhaid i mi fynd a’i weled; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae'n rhaid i mi fyned a'i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond dyma bob un ohonyn nhw yn dechrau hel esgusion. Dyma un yn dweud, ‘Dw i newydd brynu ychydig o dir, ac mae'n rhaid i mi fynd i'w weld. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, 'Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy oll a ddechreuasant o un fryd ymesgusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais faes, ac y mae angenrhaid arnaf fyned allan i'w weled: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol.